Gorchymyn Drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 38(9)(b) a 39(13)(b) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy.)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwerau Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith llifogydd ac erydu arfordirol atodol o dan adrannau 38 a 39, yn eu tro, o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29). Mae'r adrannau hynny yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol i wneud gwaith penodol er budd gwarchod natur, cadwraeth treftadaeth ddiwylliannol neu fwynhad pobl o'r amgylchedd neu dreftadaeth ddiwylliannol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymhwyso’r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p.57) sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, pwerau mynediad a iawndal i arfer y pwerau o dan adrannau 38 a 39.

Mae hefyd yn addasu cymhwysiad y darpariaethau hynny at ddibenion adran 38 fel—

(a)     na all Asiantaeth yr Amgylchedd arfer y pwerau prynu gorfodol ond at y diben o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddebau UE penodol a enwyd;

(b)     bod rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol roi 7 niwrnod o rybudd cyn arfer eu pwerau mynediad mewn perthynas â thir amaethyddol (ac eithrio mewn argyfwng).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae copi ar gael gan: Is-adran Mannau Cynaliadwy, Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ


Gorchymyn Drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 38(9)(b) a 39(13)(b) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy.)

DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                          1 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38(8) a 39(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adrannau 38(9)(b) a 39(13)(b) o'r  Ddeddf honno.

 

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011; mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

(a)     ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Adnoddau Dŵr 1991([2]); a

(b)     ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 38 o Ddeddf 2010

3.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae adran 154 o Ddeddf 1991([3]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) o Ddeddf 1991 yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2) Mae adran 157 o Ddeddf 1991([4]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(b)     bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor; a

(c)     bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor.

(3) Ni chaiff awdurdodiad ei roi i Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 154 o Ddeddf 1991, fel y’i cymhwysir gan baragraff (1), ond at y dibenion o alluogi'r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau o dan y canlynol—

(a)     y Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno neu bolisïau o dan Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb honno;

(b)     y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr mewn perthynas ag unrhyw amcanion amgylcheddol; neu

(c)     y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt mewn perthynas ag unrhyw gamau a mesurau o dan Erthyglau 2, 3 neu 4 o'r Gyfarwyddeb honno.

(4) Yn yr erthygl hon—

(a)     mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag “environmental objectives” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr;

(b)     ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt([5]);

(c)     ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr” (“the Water Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu ym maes polisi dŵr([6]); a

(ch) ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gadwraeth adar gwyllt([7]).

Cymhwyso'r darpariaethau prynu gorfodol i adran 39 o Ddeddf 2010

4.(1) Mae adran 154 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency”  lle y maent  yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 154(1);

(b)     bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 154(1) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(c)     bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

                           (i)    yn y man lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 154(1);

                         (ii)    yn y man lle y maent yn ymddangos yn adran 154(2), (3) a (4); a

                       (iii)    yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro yn adran 154(6); ac

(ch) mae i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2) Mae adran 157 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y geiriau “A local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “The Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(1);

(b)     bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran  157(2)(a) a (6);

(c)     bod adran 157(2)(b) wedi ei hepgor;

(ch) bod y cyfeiriad yn adran 157(6)(a) at orchymyn o dan adran 168 wedi ei hepgor;

(d)  bod adran 157(6)(c) i (e) wedi ei hepgor; ac

(dd) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 38 o Ddeddf 2010

5.(1) Mae adran 170 o Ddeddf 1991([8]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2) Mae adran 171 o Ddeddf 1991([9]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010; a

(b)     bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor.

(3) Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991([10]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd gan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)     bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)     bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran  170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch) bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)     bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd) bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor; ac

(e)     bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran  145 o Ddeddf 1991.

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 39 o Ddeddf 2010

6.(1) Mae adran 170 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

                           (i)    lle y maent yn ymddangos yn adran 170(1); a

                         (ii)    lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf yn adran 170(3);

(b)     bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency”—

                           (i)    lle y maent yn ymddangos yn adran 170(2); a

                         (ii)    lle y maent yn ymddangos am yr eildro yn adran 170(3);

(c)     bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 39 o Ddeddf 2010; ac

(ch) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(2) Mae adran 171 o Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(1);

(b)     bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos yn adran 171(2)(a) a (3)(c);

(c)     bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;

(ch) bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor; a

(d)     bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

(3) Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd o dan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)     bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)     bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch) bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)     bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd) bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle “the Agency” ym mharagraffau 6(3)(b) ac 8;

(e)     bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor;

(f)      bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991; ac

(ff) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 38 o Ddeddf 2010

7. Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991([11]) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriadau at y pwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 38 o Ddeddf 2010.

Cymhwyso'r darpariaethau iawndal i adran 39 o Ddeddf 2010

8. Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 i Ddeddf 1991 yn gymwys at ddibenion adran 39 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)     bod y geiriau “a local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am y tro cyntaf;

(b)     bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the Agency” lle y maent yn ymddangos am yr eildro;

(c)     bod y cyfeiriad at bwerau o dan adran 165(1) i (3) o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at bwerau o dan adran 39 o Ddeddf 2010;  ac

(ch) bod i “local authority” yr ystyr a roddir iddo yn adran 39(6) o Ddeddf 2010.

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2010 p.29; mae'r pŵer yn cael ei roi gan adrannau 38(8) a 39(12) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i “the Minister”, ac mae adrannau 38(10) a 39(14) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister” at ddibenion yr adrannau hyn.

([2])           1991 p.57.

([3])           Mae adran 154 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 157. Rhoddwyd y swyddogaethau i’r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([4])           Mae adran 157 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraffau 128 a 159. Rhoddwyd y swyddogaethau i’r Gweinidogion, sydd wedi eu diffinio yn adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 fel yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([5])           OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).               

([6])           OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar storio daearegol carbon deuocsid (OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114).

([7])           OJ Rhif L 20, 26.1.2010, t.7.

([8])           Mae adran 170 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128. 

([9])           Mae adran 171 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006  a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([10])         Mae Atodlen 20 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128 ac 188, ac O.S.  2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006  a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([11])         Mae is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 5 o Atodlen 21 wedi eu diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128, ac O.S. 2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006  a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.